Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, mae llawer yn edrych nôl ar eu huchafbwynt o’r flwyddyn.

O ran Chelsea blwyddyn hesb iawn cawsant nhw. O ran Cymru: nid oedd uchafbwynt - ond, a oedd y gêm yn erbyn Montenegro yng Nghaerdydd fis Fedi diwethaf yn drobwynt?.
Wedi treulio oriau yn teithio nôl i’r Gogledd yn ddigalon dros y misoedd, oedd hon yn siwrnai hapus dros ben.
Yr uchafbwynt yn y byd seiclo i mi, oedd seiclo i gopa Mt Ventoux yn Ffrainc ym mis Awst. Ac roedd gorffen cymal Stoke o’r Tour of Britain yn brofiad gwych.
Mae gennyf gynlluniau mawr am 2012, os wnânt nhw ddigwydd mae’n rhywbeth arall. Mae’r Dolomites yn Yr Eidal a’r Pyrenees yn Ffrainc ar y rhestr, gwledydd ac ardaloedd ffantastig i seiclo.
Mae gwylio pêl droed ym Mhrydain, wedi mynd yn ddiflas, mae ymweld â dinasoedd a stadiwms gwahanol yn Ewrop yn bleser, ac mae seiclo yn Ewrop yn fraint.
Mae’r cwrw wnes lwyddo i yfed dros y Nadolig wedi hen fynd, ac mae’r ymarfer wedi dechrau. Rŵan mae’r gwaith caled yn dechrau.
Roeddwn wedi bwriadu sgwennu blog yn aml yn 2011 – nid oeddwn yn llwyddiannus. Gobeithio ym 2012 mi fyddai.
To be honest I haven’t got any highlights from football in 2011, a turning point perhaps, when Wales beat Montenegro in Cardiff last September. It made a change to travel home from S Wales in a happy mood.
Chelsea have been nothing but inconsistent to say the least, and the signing of Torres looks like a waste of money.
I did have a major highpoint in cycling when I eventually managed to conquer Mt Ventoux in France. I was also pleased to finish the Stoke stage of the Tour of Britain.
I have big plans for 2012 – the Dolomites and the Pyrenees are on the hit list, it’s like football, you get bored of the same grounds in the UK and trips abroad watching football don’t compare anymore. It’s the same in the cycling world, Italy and France offer awesome cycling.
The training has begun, the beer has finally left my body after four days on it. The hard work starts now.
I had started and intended to blog often in 2011 - rarely do plans work out, I hope this year will be different.

No comments:
Post a Comment