
MT VENTOUX: CAWR PROVENCE
Ar y 9fed o Awst 2011- mi wnes ddathlu fy mhen-blwydd priodas arian. Doedd y wraig ddim angen parti
Roedd gan y wraig awydd fynd i Dubrovnik - ond roedd problem mynd yna a nôl. Beth am Provence ofynnais- maen eitha’ tebyg - a gallai fynd â’r beic i seiclo Ventoux? Pam lai meddai?
Mae seiclo’n boblogaidd iawn yn Ewrop; yn enwedig yn Ffrainc, Eidal, Iseldiroedd a Gwlad Belg. Ac i rwy’n sy’n gwylio’r Tour de France yn gyson, mae’r enwau fel alpe d’ Huez - Col de Galiber - Col de Tourmalet a Ventoux yn eitha’ cyfarwydd i’r gynulleidfa.
I seiclo’r mynyddoedd yma, ydy uchelgais miloedd o amaturaidd fel fi fy hun.
Yn ffodus roeddwn wedi seiclo rhai o’r uchod yn 2006; o Lyn Geneva a gorffen ar gopa alpe d’ huez.
Roedd y Ventoux o dan sylw ers hynny. Pam gofynnwch? Her yn de - Mae bron a chyrraedd fy hanner cant yn wneud i rwy’n sylweddoli, bod bywyd yn fyr, ac mae angen i ni gyflawni’n gobeithion mor gynt â phosib.
Mae tair ffordd o seiclo Ventoux; cychwyn yn Sault, y ffordd fwyaf hir ond haws, cychwyn yn Malaucene, yr un pellter ac o Bedoin ond ddim mor serth, ac o Bedoin. Hon ydy’r ffordd clasur mae’r tour yn dilyn.
Mae copa Ventoux yn 22 cilometr -1902m - â graddiant o 9% ar gyfartaledd o Bedoin. Yn syml i ni o Gymru 13.6 milltir.
Roeddwn wedi hedfan i Provence ; ar feic mewn bag ar yr awyren, am boen. Mi wnaethom hedfan ar ddydd Mercher a dydd Gwener roedd diwrnod yr her fawr.
Mi wnes seiclo o Malaucene i Bedoin dros y Col de Madeline at 500m.
Ond cynhesu’r coesau oedd hyn, felly ar ôl gwrio oll - ffwrdd a fi. I wneud o’n anodd yn seicolegol mae carreg cilometr ar ochr y ffordd - yn dangos y graddiant bob cilometr. Roedd y 3cm cyntaf yn hawdd, ond ar ôl troi i’r chwith ar ôl pump km mae'n gwaethygu. Ar ôl 7cm ydy byth llai na 7%. Mae cannoedd ar y mynydd, a cheir yn gyrru fyny a lawr. Yn y pen mae o rŵan. Gwnes ddim edrych yn ôl o gwbl - na wnes ddim stopio pedalu tan y copa. Fy nghyflymder fi trwy’r goedwig oedd 4.8 m.y.a. ar gyfartaledd.
Mae 'na gyfle am seibiant yn Chalet Reynard - lle mae’r graddiant yn ôl i 4-7%. Ar un adeg - oeddwn yn meddwl bod posib - i orffen mewn llai na dwy awr. Roeddwn yn gweithio allan yn fy mhen yr amser, ond doedd y 5c m diwethaf ddim yn ffeind i mi.
Gwnes gyrraedd y top mewn 2 awr a 18 munud, amser parchus. Y record gan y beicwyr proffesiynol ydy 55.51 gan Iban Mayo o Wlad y Basg yn 2004.
Roedd fel ffair ar y copa: beicwyr yn tynnu llunia, ac mae'r olygfa’n syfrdanol. Mi wnes ffonio’r wraig, a dweud bod y profiad yn wych -ac yn amlwg wnes ddioddef, pwy sydd ddim? Mae pawb yn dioddef ar y Ventoux. Roedd y ffordd i lawr i Malaucene yn wych - ond yn amlwg, roedd rhaid cymryd gofal. Mae’n bosib i rwy’n seiclo’r Ventoux - gyda thipyn o ymarfer. Ac mae gen i fwy o barch i sêr y byd seiclo rŵan, ar ôl y profiad fy hun…. Blwyddyn nesaf y Pyrenees amdani.
Tommie Collins
No comments:
Post a Comment